COVID-19 sparked a collaboration across Wales to bring tenants a new digital experience. eCymru has been created and powered by the knowledge, skills, and experiences of individuals from across Wales, to ensure the platform meets the diverse needs of the communities it serves and make it user friendly for learners.
The platform has tested and developed by hosting trial events such as successful webinars from Digital Communities Wales, covering topics such as shopping safely and saving money, digital health and wellbeing, and a live performance by the Barry Male Voice Choir.
eCymru has also partnered with The Open University to offer a range of free online courses in arts and crafts, education, fitness, and health.
eCymru is now live, providing you with the opportunity to access events, e-learning opportunities and more. If you’d like to look at what eCymru has to offer, visit the website, here: www.ecymru.co.uk
Mae eCymru yn fyw!
Mae Cartrefi Cymoedd Merthyr wedi bod yn gweithio â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eraill a thenantiaid ledled Cymru i greu eCymru, porth tai sy’n cysylltu cymunedau Cymru. Mae eCymru yn cynnig mynediad i ddigwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu a dysgu’n electronig a fedr helpu tenantiaid i fyw bywydau hapusach ac iachach.
Gwnaeth pandemig COVID-19 ysgogi cydweithredu ar draws Cymru i gynnig profiad digidol newydd i denantiaid. Crewyd eCymru gan wybodaeth, sgiliau a phrofiadau unigolion o bob rhan o Gymru, i sicrhau bod y porth yn ateb anghenion amrywiol y cymunedau mae’n eu gwasanaethu ac i’w wneud yn hawdd i ddysgwyr ei ddefnyddio.
Profwyd a datblygwyd y porth trwy gynnal digwyddiadau treialu fel gweminarau llwyddiannus gan Gymunedau Digidol Cymru, ar bynciau yn amrywio o siopa’n ddiogel ac arbed arian i iechyd a llesiant digidol, a chafwyd perfformiad byw gan Gôr Meibion y Barri.
Mae eCymru wedi llunio partneriaeth â’r Brifysgol Agored i gynnig ystod o gyrsiau ar-lein am ddim ym meysydd celf a chrefft, addysg, ffitrwydd ac iechyd.
Mae eCymru yn weithredol nawr, gan roi’r cyfle i chi fod yn rhan o ddigwyddiadau, manteisio ar gyfleoedd dysgu electronig a rhagor. Os hoffech chi weld beth sydd gan eCymru i’w gynnig, ewch i’r wefan: www.ecymru.co.uk